Mae’r llwybrau gwefreiddiol a golygfeydd godidog, gyda mynediad hawdd o bob rhan o’r DU wedi gwneud Beicio Mynydd yng Nghymru yn un o’r chwaraeon antur gorau sydd ar gael yn y wlad.
Mae llawer o’n llwybrau yn cychwyn mewn Canolfanau Beicio Mynydd gyda chanolfan ymwelwyr a chyfleusterai MTB gyda llwybrau wedi eu arwyddo ac llwybrau sy’n amrywbio o ran anhawster. Os ydych yn chwilio am rywle gyda pharcio, lluniaeth a chyfleusterau toiled, yna mae beicio o un o’n canolfanau yn opsiwn gwych ar gyfer pob gallu.
Mae Canolfan Beicio Mynydd yn cynnig nifer o lwybrau wedi’i arwyddo neu llwybrau wedi’u mapio. Mae gan yr ardaloedd hyn o Gymru rhai o’r golygfeydd mwyaf syfrdanol a thraciau gwefreiddiol yn y DU gyfan. Mae cyfleusterau megis llety, bwytai a chaffis, siopau beiciau ac ati ar gael yn agos i’r canolfanau annibynnol. Gweler ein hadran cyfleusterau am ragor o wybodaeth.