About
Mae Antur Stiniog yn Ganolfan Beicio Mynydd gyda chludiant i’r top, wedi ei lleoli ym Mlaenau Ffestiniog yng nghanol Eryri hardd, Gogledd Cymru.
Rydym yn cynnig y gwasanaeth cludiant i’r top gorau yn y DU i gyrraedd y llwybrau beicio mynydd, ynghyd â Chaffi gwych yn gweini bwyd lleol, llogi beiciau, Hyfforddi Sgiliau a Chroeso Cymraeg mawr i bawb.
Mae gan Antur Stiniog 6 llwybr sy’n amrywio o radd las i ddu ac rydym wedi cael canmoliaeth ryngwladol, yn y wasg beicio mynydd a chan feicwyr eu hunain. Mae ein gwasanaeth cludiant yn gwasanaethu pob un o’r llwybrau (rydym yn gyfleustra cludiant i’r top yn unig) sy’n cael ei ystyried y gwasanaeth cludiant i’r top gorau yn y DU.
I brofi’r Gwasanaeth Cludiant i’r Top ar ei orau rydym yn argymell trefnu tocyn diwrnod llawn. Mae’r gwasanaeth cludiant yn gwneud hyd at 20 rhediad y dydd. Rydym yn argymell cyrraedd mor gynnar ag y bo modd i gael y mwyaf allan o’ch diwrnod a threulio eich amser yn Antur Stiniog yn reidio, ddim yn gwthio! Mae’r cludiant cyntaf am 10am ac yn rhedeg tan 4.15pm gyda hanner awr o egwyl i ginio am 1pm.
Medrwch drefnu lle gyda’n system bwcio arlein ddiogel. Ewch i archebwch nawr. Darllenwch ein telerau ac amodau cyn archebu.
Cyfleusterau
ORIAU AGOR
Mae ein horiau agor yn dymhorol:
- Rydym ar agor 4 diwrnod (dydd Iau i ddydd Sul) o fis Hydref i fis Mawrth, 5 diwrnod (dydd Iau i ddydd Llun) o fis Ebrill i Fehefin a 7 diwrnod yr wythnos o fis Gorffennaf i fis Medi.
- (Gall yr oriau agor amrywio dros gyfnod y Nadolig)
Oriau agor y Ganolfan: 8am – 5pm
Cludiant i’r top yn y bore: 10am
Cludiant i’r top yn y prynhawn: 1.30pm
Cludiant olaf y dydd: 4pm – 4.15pm (yn dibynnu ar y golau)
Tocyn gyda’r nos ar gael yn yr haf o wneud cais.
Mae modd trefnu cludiant preifat i’r top ar ddyddiau pan nad oes cludiant cyffredinol ar gael.
PRISIAU (FESUL BEICIWR)
Pris Archebu Ymlaen Llaw
- Diwrnod Llawn (Penwythnos): £32.50
- Diwrnod Llawn (Llun – Gwener) £29.00
- Hanner Diwrnod (Ffonio i drefnu): £18.50
Cludiant sengl i’r top: £5.00 (Bydd tocynnau sengl ond ar gael os oes lle.)
Manylion Cyswllt
01766 238 007