About
Lleolir ystâd Cwm Elan wrth galon Mynyddoedd Cambria. Mae ein rhan helaeth ni o’r canolbarth, sydd wedi ei amgylchynu gan fryniau agored, yn enwog am fod yn un o’r ardaloedd beicio mynydd naturiol gorau ym Mhrydain. Mae’r ystâd yn cwmpasu dros 70 milltir sgwâr o gefn gwlad, sef 1% o Gymru – felly gallwch reidio am oriau heb weld neb.
O’i safle ar ben Cwm Elan, mae’r Ganolfan Ymwelwyr yn fan cychwyn bendigedig i grwydro Mynyddoedd Cambria. Mae ein llwybrau’n pasio trwy gefndir godidog o argaeau a chronfeydd dŵr o Oes Fictoria, cefn gwlad brydferth, coetiroedd hynafol, hen reilffyrdd a bryniau agored helaeth.
Mae beicwyr o bob lefel – o ddechreuwyr pur, i’r rhai sy’n chwilio am sbort, i arbenigwyr – yn teimlo’n gartrefol yng Nghwm Elan. Gallwch gymryd eich amser i ddatblygu’ch sgiliau ar gylchoedd byr sy’n ddigon i roi boddhad, neu’ch ymestyn eich hun ar deithiau trawsgwlad epig o amgylch yr ardal.
Nawr gallwn frolio dau drac beicio mynydd pwrpasol newydd sbon hefyd, cylch byr sy’n cynnwys disgynfeydd graddfa Las a Choch – a’r rhain yw’r llwybrau beicio mynydd pwrpasol cyntaf i gael eu hadeiladu ar yr ystâd.
Cyfleusterau
Yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan, mae ein Hyb Beicio’n cynnwys gweithdy Llogi Beics, ystafelloedd newid (yn dod yn fuan) a chyfleusterau golchi beics. Mae’r Ganolfan Ymwelwyr yn cynnig digonedd o leoedd parcio, caffi, toiledau cyhoeddus am ddim, a gwasanaeth Gofalwyr i’ch helpu i gynllunio’ch ymweliad. Mae yna feysydd parcio am ddim a thoiledau cyhoeddus eraill ar gael o gwmpas yr ystâd hefyd.
Lleolir y ganolfan ger tref Rhaeadr Gwy, lle mae yna amrywiaeth o siopau annibynnol, tafarndai, a chaffis, ynghyd â dewis da o lety sydd i’w gweld yma: www.rhayader.co.uk.
Mae Clive Powell Mountain Bikes yn Stryd y Gorllewin wedi bod yn croesawu beicwyr mynydd ers yr 80au. Fel technegwyr beics arbenigol, cyfleuster llogi beics, golchfa a siop, bydd tîm Clive, sy’n arbenigwyr yn eu crefft, yn eich gosod ar ben ffordd.
Mae Rhaeadr Gwy hefyd yn gartref i drac pwmpio mwyaf y DU – mae’n agored trwy gydol y flwyddyn ac yn hollol rad ac am ddim. Pump Track Wales yw trac pwmpio sbrint cyntaf y DU hefyd. https://www.pumptrackwales.co.uk/
Mae rhagor o fanylion am Gwm Elan yn www.elanvalley.org.uk.
Dod Yma
Mae Rhaeadr Gwy wrth galon Cymru, hi yw’r dref gyntaf ar Afon Gwy ar gyrion Mynyddoedd Cambria: mae hi’n rhwydd ein ffeindio ni am ein bod ar groesfan naturiol; ac rydyn ni’n agosach nag y byddech chi’n disgwyl:
Birmingham i Raeadr Gwy: 2 awr
Manceinion i Raeadr Gwy: 3 awr
Llundain i Raeadr Gwy: 4 awr
Saif Rhaeadr Gwy ar yr A470, sef y brif ffordd rhwng gogledd a de Cymru: 15 milltir i’r gogledd i Lanfair-ym-muallt a 10 milltir i’r de o Langurig. O’r dwyrain, bydd yr A44 yn mynd â chi i Raeadr Gwy a Chwm Elan. Rydyn ni gwta 20 milltir o Nant yr Arian, a hanner ffordd rhwng Parc Cenedlaethol Eryri a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae hi’n rhwydd dod o hyd i Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan. Wrth yrru, o Raeadr Gwy, dilynwch y B4518 tua’r gorllewin ac fe welwch arwydd i ddangos y troad i’r chwith i’r Ganolfan Ymwelwyr ymhen tair milltir. Os ydych chi’n defnyddio offer llywio â lloeren, bydd y cod post LD6 5HP yn mynd â chi’n agos at y Ganolfan Ymwelwyr… ond ar ôl troi i’r chwith oddi ar y B4518, anwybyddwch y cyngor i groesi’r bont haearn dros yr afon; yn hytrach ewch ymlaen dros y grid gwartheg ac mae’r Ganolfan Ymwelwyr o’ch blaen.
Os ydych chi’n teithio tua’r gogledd i Raeadr Gwy ar yr A470, efallai y bydd eich offer llywio â lloeren yn ceisio mynd â chi trwy bentref Llanwrthwl; nid yw’r ffordd yma’n addas i fysys neu gerbydau mawr am ei bod yn mynd â chi ar hyd lonydd cefn gwlad cul. Am lwybr mwy uniongyrchol, ewch am Raeadr Gwy a throwch i’r chwith wrth Gloc y Dref.
Cysylltwch:
Cwm Elan Ganolfan Ymwelwyr,
Elan Valley,
Rhayader,
Powys,
LD6 5HP