Cylch Nannerth
Gan ddechrau o faes parcio Cwmdauddwr, y mae’r llwybr hwn yn eich arwain drwy ddau gwm. Mae’n dechrau yn Nyffryn Gwy, byddwch yn dilyn yr afon hyd nes i chi gyrraedd Nannerth-fawr. O’r fan hon byddwch yn dringo i’r chwith at yr ysgwydd ac yn croesi o dan Moelfryn sy’n cysylltu â Chwm Elan. Mae’n dringo i fyny’n hir ac yn barhaus. O’r rhostir agored byddwch yn croesi ffordd y mynydd ac yna i lawr trac sengl sy’n eich arwain i lawr at argae a chronfa ddŵr Craig Goch. Dilynwch y llwybr beiciau i lawr y cwm cyn troi’n siarp i’r chwith at Argae Penygarreg. Unwaith i chi gyrraedd y brig byddwch yn cael eich gwobrwyo â golygfeydd godidog Dyffryn Gwy a’r Mynyddoedd Du. O’r fan hon byddwch yn disgyn am Treheslog ac yn croesi ffordd y mynydd unwaith eto i orffen gyda disgyniad gwefreiddiol linciau golff cyn gorffen yng Nghwmdauddwr.
(29km)