“Cyfle i gael egwyl o hen lwybrau rheilffordd gwael a chael darn o harddwch coedwig dderw Brechfa ar y reid hynod arddull Robin Hood yma. Mae’r daith hamddenol i fyny’r dyffryn yn rhoi opsiwn i chi ychwanegu’r llwybr glas fel her ychwanegol.”
Ein nod oedd creu llwybr sy’n cydio yn y reidar ac sy’n dwysáu eich synhwyrau, gan roi blas i chi o reidio oddi ar y ffordd go iawn.
Wedi ei enwi ar ôl y goedlan, mae’n llifo’n braf, ac mae llwybr 9.2 km Derwen yn rhoi cyflwyniad unigryw i fyd beicio mynydd i reidiwr heb lawer o brofiad oddi ar y ffordd.
Gan afael yn dynn yn ochrau’r dyffryn, mae’r llwybr yn mynd â chi fesul dringfa a disgynfa, gan wau trwy’r goedwig lle mae golygfeydd hyfryd a thir braf, mewn lle sydd wedi bod tan rwan, yn un o gyfrinachau gorau Cymru.
Byddwch wedi’ch bachu ar ôl un reid ac, efallai, yn ystyried rhoi cynnig ar y llwybr glas fel estyniad i hwn.