Llwybr 18.5km a ddechreuodd fel y Brechfa Enduro. Mae’n cael adolygiadau disglair gan bawb sydd wedi bod arno hyd yma. Mae llwybr Du y Raven, wedi ei ddylunio gan Rowan Sorrell a Brian Rumble, yn mynd â chyfleusterau beicio mynydd Brechfa i’r lefel nesaf.
Yn addas i feicwyr profiadol yn unig, mae’r llwybr yn cymysgu traciau sengl cul traddodiadol trwy’r goedwig gyda disgynfeydd sydyn Brechfa: llwybrau cyflym, troellog sy’n ysgubo rhwng coed ac sy’n llifo i mewn i ganteli a neidiau.
Mae’r llwybr hwn yn creu reid sy’n cynnwys amgylchedd unigryw’r goedwig, o fargodion tywyll bwganllyd, canteli creigiog serth a pharc beicio agored i Bont Northshore coed pinwydd Douglas.
Erbyn diwedd y llwybr, byddwch wedi cael profi eich sgiliau beicio yn llwyr, a mwy na thebyg byddwch yn anelu yn ôl am y dechrau.
Amser Y Reid (oriau): 1.5
Pellter: 10-20km
Gradd: Du
Uchder A Ddringwyd (Metrau): 725
Cyfleusterau’r Llwybr: Lleol
Ardal: De Cymru
Canllaw Graddio Cymru: 5*****
Nearby Trails
Wedi ei enwi ar ôl afon Gorlech, mae’r llwybr 18.5km hwn yn cynnig golygfeydd a thiriogaet ...
Wedi ei enwi ar ôl afon Gorlech, mae’r llwybr 18.5km hwn yn cynnig golygfeydd a thiriogaeth a chyffro.
+green
Ein nod oedd creu llwybr sy’n cydio yn y reidar ac sy’n dwysáu eich synhwyrau, gan roi bla ...
Ein nod oedd creu llwybr sy’n cydio yn y reidar ac sy’n dwysáu eich synhwyrau, gan roi blas i chi o reidio oddi ar ...
+blue
Yn ddolen oddi ar lwybr gwyrdd Derwen, mae llwybr Glas 4.7km Derwen yn dringo’n serthach c ...
Yn ddolen oddi ar lwybr gwyrdd Derwen, mae llwybr Glas 4.7km Derwen yn dringo’n serthach cyn cymryd disgynfa hirach ...