Diweddariad Llwybrau Beicio Mynydd
Dolen Machno: Ar agor heblaw am un rhan sydd ar gau, sef Igam Ogam a Super Sych. Dilynwch y gwyriad.
Dolen Eryri: Ar agor heblaw am ddwy ran sydd ar gau, sef Pedlo Cyflym a Fedw Deg. Dilynwch y gwyriadau.
Cadwch fynedfa’r maes parcio’n glir i alluogi lorïau coed i droi.
Mae llwybrau Penmachno yn un o drysorau cudd Gogledd Cymru. Llwybrau anghysbell, naturiol eu naws gyda golygfeydd godidog o Eryri.
Ceir lwybr cylchol y gellir eu beicio ar wahân neu fel un daith 30km o hyd. Mae Dolen Machno yn 19km a Dolen Eryri yn 11km.
Caiff y llwybrau eu rheoli a’u cynnal a’u cadw gan grŵp cymunedol gwirfoddol lleol, sef Menter Bro Machno. Gellir rhoi rhoddion ariannol wrth y man cychwyn neu ar y wefan penmachnobiketrails.org.uk
Mae’r llwybrau’n anghysbell ac agored, gyda fawr ddim, ne ddim, signal ffôn. Cofiwch baratoi, ac os byddwch yn beicio ar eich pen eich hun cofiwch roi gwybod I rywun.
Amser Y Reid (oriau): 4
Pellter: 20-30km
Gradd: Coch
Uchder A Ddringwyd (Metrau): 760
News/Update: Diweddariad Llwybrau Beicio Mynydd
Dolen Machno: Ar agor heblaw am un rhan sydd ar gau, sef Igam Ogam a Super Sych. Dilynwch y gwyriad.
Dolen Eryri: Ar agor heblaw am ddwy ran sydd ar gau, sef Pedlo Cyflym a Fedw Deg. Dilynwch y gwyriadau.
Cadwch fynedfa’r maes parcio’n glir i alluogi lorïau coed i droi.
Cyfleusterau’r Llwybr: Lleol
Ardal: Gogledd Cymru
Canllaw Graddio Cymru: 5*****
Nearby Trails
Gwydir Mawr & Bach
Mae Llwybr 25km Gwydir Mawr yn llwybr beicio mynydd go iawn ym mhob ystyr y term. Dringeyd ...
Mae Llwybr 25km Gwydir Mawr yn llwybr beicio mynydd go iawn ym mhob ystyr y term. Dringeydd mawr, disgynfeydd serth ...