click to enable zoom
Loading Maps
We didn't find any results
open map
View Roadmap Satellite Hybrid Terrain My Location Fullscreen Prev Next
Search / Chwilio
We found 0 results. Do you want to load the results now ?
Search / Chwilio
we found 0 results
Your search results

BikePark Wales

South wales |

About

BikePark Wales yw prif barc beicio mynydd y DU. Mae gan y safle 28 erw fwy na 28 llwybr ar i waered wedi eu trefnu’n debyg iawn i ganolfan sgïo. Wedi ei adeiladu yng nghanol Cymoedd De Cymru, mae BikePark Wales yn cynnig llwybrau beicio  ar gyfer beicwyr lefel canolraddol i broffesiynol. Ddim ar gyfer beicio i waered yn unig, mae’r parc hwn yn fwyaf addas ar gyfer beic llwybr, lle mae’r llwybrau glas a’r rhai coch gyda’u creigiau a’u gwreiddiau yn gam i fyny perffaith i feicwyr llwybr. Mae’r parc yn cynnig gwasanaeth bws mini sy’n mynd â chi a’ch beic i’r brig rhwng y reidiau, gan adael i’ch coesau orffwyso ychydig cyn y reid ar i waered nesaf. I’r rhai ohonoch sydd eisiau mynd i fyny dan eich stêm eich hun, mae dringfa trac sengl ar gael i fynd i fyny.

Gan ddefnyddio’r gwasanaeth cludiant i’r top, gall beiciwr ddisgwyl cael rhwng 8 a 15 rhediad y dydd. Yn 4.6km mae hefyd yn bosibl beicio llwybr trac sengl yr holl ffordd i’r top eich hun a bydd hyn yn cymryd rhwng 20 a 40 munud yn dibynnu ar eich ffitrwydd.

I’r rhai ohonoch sy’n dewis defnyddio’r gwasanaeth cludiant i’r top rydym yn argymell bwcio tocyn ymlaen llaw, gan fod tocynnau yn aml iawn wedi eu gwerthu i gyd ymlaen llaw. Ond ni ddylai hyn eich rhwystro rhag ymweld, gan fod tocynnau dydd (i feicwyr sy’n beicio i fyny) ar gael fwy nau lai trwy’r amser. A medrwch gymryd tocyn aml-reid hefyd sy’n caniatáu i chi ddefnyddio’r gwasanaeth cludiant os oes lle (gwell ei ddefnyddio yn gynnar yn y bore cyn i’r beicwyr gyda phen mawr neu sy’n teithio o bell gyrraedd). Mae cynllun y llwybrau yn BikePark Wales yn galluogi i feicwyr gymysgu eu llwybrau trwy gyfuno gwahanol rannau gyda’i gilydd. Er enghraifft, medrwch ddewis y llwybr du enwog ‘Dai Hard’ o’r top ac yna newid i ‘Rim Dinger’, llwybr coch, wrth fynd yn ôl i’r man cludo neu i’r ganolfan. Mae’r gallu hwn i gymysgu a chyfuno yn golygu nad yw’n bosibl i’r profiad fynd yn un diflas. Trefnwch daith nawr – fyddwch chi ddim yn cael eich siomi!

Llogi Beics

Mae modd llogi beics ar y safle ond argymhellir trefnu ymlaen llaw .

Hyfforddiant

Mae BikePark Wales yn cynnig rhestr gynhwysfawr o gyrsiau hyfforddi wedi eu dylunio i wella eich sgiliau a’ch diogelwch ar y llwybrau.

The Woodland Cafe

Mae’r Woodland Cafe  wedi ei leoli yng nghanol y parc beicio. Mae’n gwerthu popeth o frecwast Cymreig llawn i byrgyrs BPW a the a chacen.

Mae yna hefyd siop feics a thrwsio dda ar y safle.

Medrwch drefnu i ddenfyddio’r gwasanaeth cludiant i’r top hyd at 3 mis ymlaen llaw.

Cewch barcio am ddim ar y safle. I’r sawl sy’n dymuno beicio i fyny yn hytrach na defnyddio’r gwasanaeth cludiant mae ffi ddyddiol o £6, ac mae 100% o hwn yn mynd i gynnal a gwella’r rhwydwaith llwybrau.

Manylion Cyswllt

I gael gwybodaeth am Ganolfan Ymwelwyr BikePark Wales: Ffôn: 07730 38250 Canolfan Coedlan Gethin Abercanaid
Merthyr Tudful
CF48 1YZ (peidiwch â defnyddio’r côd post hwn i gael hyd i ni).

Medrwch ddilyn BikePark Wales ar Facebook neu ar Twitter  ac ar Instagram

Dod Yma

Dylech fod yn ymwybodol bod teclynnau llywio lloeren a mapiau Google yn aml iawn yn mynd â chi i’r lle angywir os ydych chi’n defnyddio’r côd post yn unig. Mae’r Côd Post CF48 4TT yn mynd â chi i’r gylchfan gywir (ond ar ôl gadael y gylchfan, trowch i’r dde ac nid i’r chwith).

Cyfeirnod Grid Arolwg Ordnans: SO 050035

O’r M4

Cymerwch Gyffordd 32 ar yr M4 (Caerdydd/Merthyr Tudful), wrth y gylchfan cymerwch yr A470 i’r gogledd i gyfeiriad Merthyr Tudful/Pontypridd). Ymunwch â’r A470

Ewch HEIBIO Pontypridd (PEIDIWCH Â DILYN UNRHYW allanfa)

Ewch YN SYTH DROS y gylchfan gyntaf. Ewch ymlaen am ryw 5 milltir

Trowch i’r CHWITH wrth y gylchfan nesaf, allanfa 1af, a throi i’r dde i mewn i’r ganolfan

Mae’r arwydd GETHIN WOODLAND PARK ar arwydd ffordd brown mawr yn dangos lle mae’r ganolfan

O’r gorllewin ar yr A465 / Ffordd Blaenau’r Cymoedd

Dilynwch yr arwyddion i Ferthyr Tudful/Caerdydd/M4

Wrth y gylchfan, cymerwch y 3ydd allanfa i fynd ar yr A470 i gyfeiriad Caerdydd/Merthyr Tudful

Ewch YN SYTH DROS y DDWY gylchfan nesaf

Trowch i’r DDE ar y gylchfan NESAF, 3ydd allanfa, a throi i’r dde i mewn i’r ganolfan

O’r dwyrain ar yr A465 / Ffordd Blaenau’r Cymoedd

Dilynwch yr arwyddion i Gaerdydd/Canol y Dref ar yr A4060, trowch i’r CHWITH wrth y gylchfan, allanfa 1af, i fynd ar yr A4060

Ewch yn SYTH DROS y DDWY gylchfan nesaf

Trowch i’r CHWITH yn y gylchfan NESAF, allanfa 1af, dros y drosffordd

Ewch YN SYTH DROS y gylchfan NESAF, 2il allanfa, a throi i’r dde i mewn i’r ganolfan

Gorsaf Agosaf:

Pentre-Bach (1.0 milltir), CF48 4BD, 10-15 ar gefn beic.