About
Os mai hwyl, adrenalin a wyneb mwdlyd sy’n mynd â’ch bryd, yna dyma’r lle i chi. Fel un o brif ganolfannau llwybrau beicio mynydd y DU, mae gan Oneplanet Adventure rywbeth i bawb, beth bynnag yw eich profiad neu allu.
Fel y porth i’ch profiad beicio mynydd yng Ngogledd Cymru, mae Oneplanet Adventure, wedi ei leoli yng Nghoed Llandegla, wedi dod yn adnabyddus fel y lle i fynd i gael eich dos adrenalin beicio mynydd yn y DU. Wedi ei leoli dim ond 20 munud o Gaer, Oneplanet Adventure yw’r ganolfan beicio mynydd bwrpasol mwyaf hygyrch yng Ngogledd Cymru, a beth bynnag yw eich lefel perfformiad, mae’n sicr o wneud i chi wenu o glust i glust.
Os ydych yn rhoi cynnig arni am y tro cyntaf ac eisiau cyflwyniad diogel a hwyliog i’r sbort, neu’n feiciwr penwythnos rheolaidd yn barod am yr her nesaf, Oneplanet Adventure yw’r lle i chi. Mae yna amrywiaeth o lwybrau sy’n addas i bob gallu, o’r Llwybr Gwyrdd hyfryd o gwmpas y gronfa i’r llwybr B-Line anhygoel a llawer yn y canol. Mae’r rhwydwaith o lwybrau, sydd wedi eu dylunio’n ofalus, yn sicrhau ei bod yn syml i chi ddatblygu eich sgiliau, a bydd cael hyd i lwybr sy’n addas i’ch gallu a’ch lefel ffitrwydd chi yn hawdd.
Mae’r llwybrau yng Nghoed Llandegla yn cael eu datblygu a’u cynnal trwy’r amser. Mae nifer o ddolenni dewisol, megis y ‘Parallel Universe’ a’r ‘B-Line’ poblogaidd, sy’n ymgorffori rhannau estyll a chyfres wyllt o neidiau top bwrdd ar gyfer beicwyr profiadol.
Rydym hefyd yn cynnig llwybrau cerdded o amrywiol raddau.
Cyfleusterau
Mae’r ganolfan ymwelwyr bwrpasol yn golygu bod eich gofynion i gyd yn cael eu diwallu. O siop feics o ansawdd, gwasanaeth llogi beiciau a chyfleusterau gweithdy, trwodd i’r caffi, sydd wedi ennill gwobrau, mae popeth rydych ei angen ar gyfer diiwrnod gwych ar gael yng Nghanolfan Ymwelwyr Oneplanet Adventure.
Oriau agor canolfan ymwelwyr Llandegla
Dydd Llun: AR GAU* Mae’r maes parcio a’r toiledau ar agor trwy’r dydd ar ddydd Llun
Dydd Mawrth i Ddydd Sul: 9:00am – 5:30pm
Dydd Mercher: 9:00am – 8:30pm
Mae’r caffi yn enwog am ei ddognau hael a’i awyrgylch cyfeillgar, ac mae ffilmiau beicio’n cael eu dangos ar ddolen. Gweinir bwyd poeth yn y caffi rhwng 10.00am a 4.30pm. Hefyd, mae siop a gwasanaeth llogi beics ar gael. I gael mwy o wybodaeth ewch i Oneplanet Adventure.
Mae’r maes parcio ar agor am 9am bob dydd ac yn cael ei gloi 30 munud ar ôl i’r ganolfan gau. Codir tâl am barcio er mwyn caniatáu buddsoddiad parhaus i ddatblygu’r llwybrau. Y tâl am barcio yw £4.50 am y diwrnod cyfan. Fel arall, mae tocyn tymor ar gael am 12 mis sy’n costio £60.
Nodwch os gwelwch yn dda: Mae pen y llwybr yn cau 1.5 awr cyn y ganolfan ymwelwyr.
Manylion Cyswllt
I gael gwybodaeth am y llwybrau, llogi beics, y siop a’r ganolfan ymwelwyr, ffoniwch One Planet Adventure: Ffôn: 01978 751656 neu ebost hello@oneplanetadventure.com
Ewch i’r dudalen gartref swyddogol – http://www.oneplanetadventure.com
Medrwch ddilyn One Planet Adventure ar Twitter neu ar Facebook
Dod Yma
Lleolir Coed Llandegla Forest ar yr A525, 7 milltir i’r gorllewin o Wrecsam. O Gaer, ewch ar yr A483 i’r de i gyfeiriad Wrecsam ac yna’r A525 i’r gorllewin, gan ddilyn arwyddion Rhuthun.
O ardal Rhuthun, ewch ar yr A525 i’r dwyrain i gyfeiriad Wrecsam. Mae arwyddion ar gyfer Coed Llandegla Forest ar y ffordd.
Ar gyfer gwasanaethau mapio lloeren/GPS, defnyddiwch: LL11 3AA
Taflen Map Arolwg Ordnans 117 Caer a Wrecsam, 1:50,000.
Cyfeirnod grid i ddod i mewn o’r A525 (prif ffordd): SJ 227520Dydd Mercher: 9:00am – 8:30pm