About
Mae Coedwig Nant-yr-Arian yn uchel yn y mynyddoedd, ychydig i mewn o Aberystwyth, ac mae’n cynnig reidio lefel uchel gwych yn y gwyllt. Gyda llwybrau yn mynd allan i olygfeydd hynod Mynyddoedd Cambria, mae hon yn ardal ragorol i’r sawl sy’n hoffi reidio garw. Byddwch yn barod am bopeth. O ddringeydd mynydd go iawn, i groesi afonydd a disgynfeydd creigiog technegol.
Mae llwybr Syfydrin yn cyfuno’r gorau o drac sengl ‘llwybr y Copa’ gyda thraciau mynydd cefn gwlad gwyllt mewn dolen 35km. Noddodd Summit Bikes y llwybr Copa 16km a llwybr 9km Pendam gan ddefnyddio trac sengl troellog wedi ei gerfio yn ddwfn i gymoedd a chribau’r goedwig i greu opsiynau byrrach, ond dim llai heriol.
Tra efallai na welwch unrhyw berson arall mewn llawer o ddyddiau o reidio, mae tref brifysgol arfordirol Aberystwyth yn brysur iawn gyda’r nos, ac mae nifer o siopau beics ardderchog yno. Os hoffech chi gael lle tawelach i fwyta ac yfed mae digon o ddewis yn y pentrefi ar stepen drws Nant-yr-Arian.
Cyfleusterau
Oriau agor canolfan ymwelwyr Nant yr Arian.
- Trwy gydol y flwyddyn: 10.00am – 5.00pm
Mae caffi Bwlch Nant yr Arian yn gweini cynnryrch lleol gan gynnwys eu te hufen Cymreig enwog. Mae toiledau a chyfleusterau newid babis, ynghyd â siop lle cewch wybodaeth, anrhegion a byrbryd, ynghyd â maes parcio sydd fel rheol yn un talu ac arddangos.
Manylion cyswllt
I gael gwybodaeth am y llwybr ffoniwch canolfan ymwelwyr Nant yr Arian ar: 01970 890453
Ewch i http://naturalresources.wales neu ebostiwch: bnya@naturalresourcewales.gov.uk
Dilynwch Nant yr Arian ar Facebook https://www.facebook.com/bwlchnantyrarian
Dod Yma
Wedi ei leoli 10 milltir i’r dwyrain o Aberystwyth ar yr A44, ddwy filltir i’r gorllewin o Bonterwyd.
Ar gyfer Gwasanaethau Mapio Lloeren /GPS/ defnyddiwch: SY23 3AB Cyfeirnod Grid OS: SN718813