Bydd llwybr Climachx yng Nghoedwig Dyfi yn cau ar ddydd Sadwrn 28 Hydref oherwydd Rali Cymru GB.
Gall fod llwybr Climachx yn fyr, ond mae’n creu fwy o argraff na fyddai ei 15km yn cyfleu.
Disgyniad terfynol ‘Tony y Teigr’ yw’r uchafbwynt. Trac sengl naturiol gydag adrannau technegol creigiog, cwympiadau, slabiau creigiog a thro I’r chwith sy’n ddigon I godi ofn cyn y ddisgynfa igam ogam terfynol. Edrychwch allan am y saeth fawr goch, neu byddwch yn wynebu disgynfa fwy nag oeddech yn ei ddisgwyl!
Mae’r llwybr yn cael ei reoli a’I gynnal a chadw gan grwp gwirfoddoli lleol ‘Dyfi Valley MTB’ gweler www.dyfimountainbiking.org.uk am fwy o fanylion.
Adeiladwyd climachx yn 2005 gan ecotrails ac fe’i lleolir yng nghoedwig Dyfi; cartref Howies Dyfi Enduro.
Mae’r llwybr hwn wedi’i raddio’n goch, er bod ail hanner y rhan olaf (Tony the Tiger) wedi’i raddio’n ddu.
Defnyddir coedwig Dyfi ar gyfer digwyddiadau chwaraeon moduro ar tua 5 penwythnos y flwyddyn.
Ar y dyddiau hyn mae llwybr climachx ar gau. Edrychwch ar wefan Dyfi Mountain Biking am fanylion.
Mae climachx 4 milltir i’r gogledd o Fachynlleth, taith ddymunol ar hyd Llwybr Beicio Cenedlaethol 8. Nid oes cyfleusterau ar ben y llwybr ond mae tafarn [Tafarn Dwynant] sy’n gweini bwyd ym mhentref cyfagos Ceinws sydd ychydig gannoedd o fetrau i ffwrdd.