Llwybr yn agored gyda gwyriad. Mae ‘Flightpath’ ac ‘R74’ wedi cau oherwydd difrod storm a chan fod coed wedi syrthio. Dilynwch y gwyriad.
Roedd y Tarw Du (20.2 km) nid yn unig y llwybr gwreiddiol yng Nghoed y Brenin, ond hefyd roedd yn cael ei ystyried gan llawer i fod y llwybr beicio mynydd pwrpasol cyntaf a grewyd yn y DU, a thu hwnt mae’n debyg!
Llwyddiant yr hen lwybr enwog, y ‘Red Bull’ yw pam mae gennwym gymaint o ganolfannau llwybrau arbennig heddiw. Mae’n greigiog, mae’n retro. Nawr gydag adran newydd sbon – ‘Y Slab’ sy’n cynnwys nifer o slabiau mawr a rhai nodweddion diwrthdro. ‘Wedi neidio, rhy hwyr peidio’. Oes gennych chi’r sgiliau I feicio’r Tarw Du?
Rhybudd: byddwch yn dod ar draws nifer o rannau caregog gan gynnwys grisiau cerrig sy’n disgyn 20cm/8” neu fwy.
Address: Coed y Brenin Visitor Centre
Town: nr Ganllwyd
Area: Dolgellau
County: North
Post Code: LL40 2HZ
Amser Y Reid (oriau): 1.5
Pellter: 20-30km
Gradd: Du
Uchder A Ddringwyd (Metrau): 410
News/Update: Llwybr yn agored gyda gwyriad. Mae ‘Flightpath’ ac ‘R74’ wedi cau oherwydd difrod storm a chan fod coed wedi syrthio. Dilynwch y gwyriad.
Cyfleusterau’r Llwybr: Ar y safle
Ardal: Gogledd Cymru
Canllaw Graddio Cymru: N/A
Nearby Trails
Ardal Sgiliau Y Ffowndri
Os ydych chi’n beicio mynydd am y tro cyntaf neu os ydych chi am ddysgu’r technegau sy’n h ...
Os ydych chi’n beicio mynydd am y tro cyntaf neu os ydych chi am ddysgu’r technegau sy’n hanfodol ar gyfer beicio o ...